Ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd

Mae ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd yn ieithoedd a ddefnyddir tu mewn i aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn cynnwys 24 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd ag ystod o ieithoedd eraill. Mae'r UE yn datgan ar ei wefan Europa: "Ieithoedd: ased Ewrop" ("Languages: Europe's asset"), ac mae gan yr UE Gomisiynydd Ewropeaidd dros Amlieithrwydd, sef Leonard Orban.

Yn yr Undeb Ewropeaidd, cyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau ydy polisi iaith, a nid oes polisi iaith cyffredin gan yr UE. Mae sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl gefnogol yn y maes hwn, yn seiliedig ar "egwyddor cyfrifolaeth". Mae eu rôl yn cynnwys hybu cydweithrediad ymhlith yr aelod-wladwriaethau a hybu'r dimensiwn Ewropeaidd ym mholisïau iaith yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn annog ei ddinasyddion i gyd i fod yn amlieithog; yn benodol, mae'n eu hannog i allu siarad dwy iaith yn ogystal â'u mamiaith. Er bod yr UE â dylanwad cyfyngedig iawn yn y maes hwn – gan fod y cynnwys o systemau addysg yn gyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau unigol – mae nifer o raglenni cyllido o'r UE yn hybu'n weithredol dysgu ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search